|
TEITL |
Gosod y Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion |
|
DYDDIAD |
17 Rhagfyr 2025 |
|
GAN |
Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg |
Mae'n bleser gennyf gadarnhau fy mod wedi gosod y Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025 gerbron y Senedd heddiw. Bydd y Rheoliadau hyn yn:
Mae gosod y Rheoliadau hyn yn gam pwysig pellach tuag at wella iechyd a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Maent yn adlewyrchu proses o gydgynhyrchu rhwng partneriaid a ddechreuodd dros 12 mis yn ôl, ac mae o bwys eu bod yn adlewyrchu'r adborth a gafwyd yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, awdurdodau lleol, ysgolion, a gweithwyr iechyd proffesiynol, a gyfrannodd eu barn. Mae eu sylwadau wedi bod yn amhrisiadwy.
Mae cynnig Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd eisoes yn gynnig trawsnewidiol, ac mae'r cynllun wedi darparu dros 57 miliwn o brydau bwyd ers mis Medi 2022. Mae'r safonau diwygiedig hyn yn codi'r safon ymhellach, gan wneud y mwyaf o effaith y cynllun trwy sicrhau safonau uwch a phrydau â gwerth maethol uwch. Mae'r ymdrechion hyn yn cyd-fynd â'n huchelgeisiau i fynd i'r afael â thlodi plant, lleihau anghydraddoldebau, a gwella cyrhaeddiad a lles.
Ar 10 Rhagfyr 2025 cyhoeddais am gynnydd i'r gyfradd a delir fesul Pryd Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, o £3.20 i £3.40. Mae hyn yn adlewyrchu'r flaenoriaeth yr ydym yn ei roi ar ddarparu cynnig o safon yn wyneb costau cynyddol, ac mae'n helpu i sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y dechrau gorau posibl.
Bydd y Rheoliadau yn dod i rym ar 31 Hydref 2026, gan ganiatáu digon o amser i ysgolion ac awdurdodau lleol baratoi at eu rhoi ar waith.
Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys testun llawn y Rheoliadau ar gael yma.